Care Home Categories: Nursing and Residential

Mae Parc-y-llyn wedi'i leoli yn unigryw ar ei dir ei hun yng nghefn gwlad hardd a heddychlon Sir Benfro. Ein nod bob amser yw creu awyrgylch hamddenol ym Mharc-y-llyn, lle y bo preswylwyr yn teimlo'n ymlaciedig ac yn fodlon. Rydym yn ceisio darparu'r gofal ychwanegol y mae rhai o'n preswylwyr ei angen ac yn ei werthfawrogi, gan ei wneud yn bosibl i ni barhau ein gofal hirdymor. Mae ffrindiau a theuluoedd y preswylwyr yn cael eu hannog i ystyried eu hunain yn hollol gartrefol ymhob agwedd wrth ymweld â'u hanwyliaid. Ein hathroniaeth gofal Mae Cartref Nyrsio a Gorffwys Parc-y-llyn yn darparu gofal nyrsio sympathetig 24 awr y dydd mewn amgylchedd cartrefol, gan gynnal yr annibyniaeth a'r urddas mwyaf posibl ar gyfer yr holl breswylwyr a chynnig dealltwriaeth, cymorth a chyngor i berthnasau. Mae nifer o'n cynorthwywyr gofal yn siarad Cymraeg, gan alluogi ein siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio eu mamiaith bob dydd. Mae ein dull cyfannol yn nodi anghenion unigol pob preswylydd, gan barchu ei safbwyntiau a'i gredoau o ran hil, rhywedd, sensitifrwydd diwylliannol a chrefyddol, a pharchu hawliau dynol. Mae gofal nyrsio ein oll breswylwyr o'r pwysigrwydd mwyaf i Barc-y-llyn a'n tîm o nyrsys a gofalwyr. Rydym yn croesawu'r cyfle i gynnwys perthnasau yng ngweithdrefnau cynllunio gofal y preswylwyr, fel y gellir gwneud cytundebau ar gyfer eu rhaglen ofal os ydynt yn dymuno hynny. Gallai hyn gynnwys contractio asiantaethau eraill (gwasanaethau cymdeithasol neu'r bwrdd iechyd lleol) fel y bo'n briodol. Nodau ac amcanion Darparu amgylchedd diogel ar gyfer preswylwyr gan ddefnyddio offer asesu risg. Caniatáu i breswylwyr ddatblygu unigoliaeth. Cynnig preifatrwydd yn ôl y gofyn i annog dewisiadau preswylwyr. Darparu gweithgareddau sy'n addas i anghenion unigolion. Darparu dewis o ofynion dietegol. Darparu gwasanaethau allanol yn ôl y gofyn. Darparu cynlluniau gofal ar gyfer pob preswylydd. Staff Mae gan Barc-y-llyn staff ymroddedig a gofalgar sy'n derbyn rhaglen sefydlu gynhwysfawr, wedi ei dilyn gan hyfforddiant a datblygiad parhaus. Bwydlenni a phrydau bwyd Bob dydd rydym yn cynnig bwydlen wahanol ac yn arlwyo ar gyfer gofynion deietegol arbennig. Caiff brecwast ei weini yn yr ystafelloedd gwely, gyda chinio a swper fel arfer yn cael eu gweini yn yr ystafell fwyta / lolfeydd neu ystafelloedd gwely'r preswylwyr eu hunain, gan alluogi'r staff gofal i ddiwallu anghenion unigol y preswylwyr. Ystafelloedd gwely Mae gan bob preswylydd ei ystafell wely breifat, er bod gennym ychydig o ystafelloedd gwely dwbl sy'n caniatáu i bartneriaid fod yn yr un ystafell. Er bod yr ystafelloedd gwely hyn wedi eu dodrefnu'n llawn, rydym yn annog preswylwyr i ddod ag eitemau bach eu hunain os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae'r holl ystafelloedd yn cynnwys system gloch alw a dŵr poeth/oer. Mae pwyntiau teledu ar gael ymhob ystafell a gellir gosod ffôn personol hefyd yn unol â threfniadau British Telecom. Cyfleusterau eraill Mae lifft at gael i lawr cyntaf y cartref. Mae setiau teledu ymhob lolfa ac ystafelloedd tawel llai ar gyfer ymwelwyr. Caiff papur dyddiol ei ddosbarthu yn ôl trefniant. Mae gwasanaethau trin gwallt, trin traed, deintyddion ac optegwyr ar gael ar gais. Mae gennym gasgliad cyffrous o weithgareddau yn y cartref ac rydym yn annog y preswylwyr a'u hymwelwyr i gymryd rhan. Mae rhestr lawn o weithgareddau ar gael i'n holl breswylwyr ac mae ein cydlynydd gweithgareddau yn darparu gofal ewinedd a chroen yn rheolaidd. Mae'r ymwelwyr yn mwynhau ymweliadau rheolaidd gan Simba ein ci cydymaith a gwibdeithiau i atyniadau hardd amrywiol yn Sir Benfro. Ar diroedd Parc-y-llyn, mae sinema sy'n hel atgofion, tafarn a chyfleuster siop leol. Ar hyn o bryd, rydym yn mynd drwy'r broses o ddatblygu caffi ar y safle fel gofod ychwanegol i berthnasau a ffrindiau ymweld ag ef. Gofal dementia arbenigol Ar hyn o bryd, Parc-y-Llyn yw'r unig gartref nyrsio yng ngogledd Sir Benfro sy'n cynnig gofal dementia arbenigol yn ei uned hunangynhaliol. Squirrel House – byw â chymorth ar gyfer preswylwyr. Mae Squirrel House yn ddatblygiad newydd byw â chymorth o wyth fflat hunangynhaliol gydag un ystafell wely, ac mae wedi ei leoli ar ei diroedd godidog ei hun a'i orffen i safon uchel iawn. Gall pob preswylydd addasu ei gegin i fodloni ei anghenion, gan alluogi i'r preswylwyr deimlo'n gartrefol yn Squirrel House. Gan gefnogi amrywiaeth o anghenion gofal, mae Squirrel House yn galluogi preswylwyr i ddewis eu darparwr gofal eu hunain i'w cefnogi hwy neu gellir darparu gofalwr o'r prif dŷ ym Mharc-y-llyn. Ochr yn ochr â gwasanaethau glanhau a golchi dillad, mae prydau bwyd gwych ar gael i'r preswylwyr a gellir eu bwyta yn y prif dŷ neu eu dosbarthu gan y staff gofal drwy'r bont gyswllt. Ceir ystafell gymunol wych yn Squirrel House gyda theledu ac ardal fwyta sy'n caniatáu i'r preswylwyr fwynhau cwmni ei gilydd. Mae Squirrel House wedi ei brisio'n gystadleuol mewn perthynas â datblygiadau byw â chymorth eraill.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.