Care Home Categories: Nursing and Residential
Mae Plas Bridell Manor wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru o ran y ddarpariaeth gofal 24 awr ar gyfer Nyrsio Henoed Bregus eu Meddwl a gofal ar gyfer dynion a menywod dros 65 oed.
Mae Plas Bridell Manor yng nghanol cefn gwlad Gorllewin Cymru y tu allan i dref marchnad Aberteifi, yng Ngheredigion. Ceir mynediad hawdd i barc gwledig a thraethau yr ardaloedd cyfagos.
Mae'r 36 ystafell wely yn cynnwys uned ymolchi a mynediad uniongyrchol i'r toiled a'r ystafelloedd ymolchi/cawodydd.
Mae ardaloedd cymunedol yn y cartref yn cynnwys:
Gardd liwgar lle gellir gweini bwydydd a diodydd
Tiroedd a gerddi lle gall preswylwyr weld bywyd gwyllt ac adar
Ystafell fwyta
Ystafelloedd byw
Ardaloedd tawel
Salon trin gwallt