Care Home Category: Residential

Mae Y Bwthyn yn gartref gofal pwrpasol a agorwyd yn y 1970au. Dros y blynyddoedd mae wedi elwa ar waith gwella ac adnewyddu sylweddol gan ymdrechu bob amser i gynnal llety a chyfleusterau o safon dda i ddiwallu anghenion gofal a chwrdd â disgwyliadau'r bobl sy’n byw yno. Mae'r Cartref wedi'i gofrestru i ddarparu gofal a chymorth ar gyfer hyd at 32 o bobl ar sail dros dro a pharhaol. Mae hyn yn cynnwys darparu 3 gwely seibiant, 13 gwely ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia isel neu gymedrol a 16 gwely preswyl cyffredinol. Mae'r llety yn cael ei ddarparu ar ddau lawr. Mae Gwasanaeth Dydd y Bigyn yn gysylltiedig â'r Cartref sy'n darparu cymorth i hyd at 12 o bobl sydd â dementia. Mae'r cyfleuster hwn yn cefnogi pobl sy'n byw yn y gymuned yn bennaf, y mae llawer ohonynt yn hysbys i'r Cartref Gofal hefyd drwy ddefnyddio'r gwasanaeth ar gyfer gofal seibiant. Mae'r Rheolwyr a'r Tîm o Staff yn Y Bwthyn wedi ymrwymo i ddarparu gofal a chymorth o safon uchel mewn amgylchedd diogel, cyfforddus a chartrefol. Mae cefnogi dewisiadau ffordd o fyw gydag urddas a pharch yn hollbwysig i'r tîm er mwyn helpu Preswylwyr i gyflawni eu canlyniadau personol.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.