Care Home Category: Residential
Mae Y Plas yn gartref gofal pwrpasol a agorwyd yn 1981. Dros y blynyddoedd mae wedi elwa ar waith gwella ac adnewyddu sylweddol gan ymdrechu bob amser i gynnal llety a chyfleusterau o safon dda i ddiwallu anghenion gofal a chwrdd â disgwyliadau'r bobl sy’n byw yno.
Mae'r Cartref wedi'i gofrestru i ddarparu gofal a chymorth ar gyfer hyd at 30 o bobl yr aseswyd bod angen lleoliad gofal preswyl tymor hir arnynt. Mae'r llety yn cael ei ddarparu ar ddau lawr.
Mae'r Rheolwyr a'r Tîm o Staff yn falch o'r gwasanaeth a ddarperir yn Y Plas ac yn parhau i ymrwymo i ddarparu gofal o safon uchel a chefnogi dewisiadau ffordd o fyw gydag urddas a pharch mewn amgylchedd cyfforddus a chartrefol er mwyn helpu Preswylwyr i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt hwy.