Care Home Categories: Nursing and Residential
Mae Ridgeway yn gartref sefydledig yn llawn cymeriad, sy'n cynnwys y prif dŷ, sydd â nifer o'i nodweddion gwreiddiol o hyd, a dau estyniad pellach a adeiladwyd yn bwrpasol. Mae wedi'i leoli ar ei dir preifat eang ei hun mewn lleoliad gwledig deng milltir i'r dwyrain o Hwlffordd. Mae wedi'i leoli'n gyfleus ar gyfer mynediad at draffordd yr M4 ac mae o fewn cyrraedd hawdd i Gaerfyrddin ac Abertawe.
Agorwyd Ridgeway yn wreiddiol fel cartref gofal yn 1983 er mwyn galluogi pobl hÅ·n o'r ardal a thu hwnt i dderbyn gofal priodol mewn lleoliad cymunedol a ble anogir gwerthoedd teulu traddodiadol.
Mufulira Limited yw perchnogion Ridgeway, ac mae'r cwmni’n masnachu fel Cartref Nyrsio Ridgeway. Mae wedi'i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o dan delerau Deddf Safonau Gofal 2000 i ddarparu ar gyfer 47 o bobl. Yr unig fathau o ofal y gellir eu darparu a'r nifer mwyaf o leoedd y gellir eu cynnig yw fel a ganlyn:
• Pobl sy'n 65 oed a hŷn sydd angen gofal nyrsio neu ofal personol (hyd at 47 o leoedd)
• Tri o bobl sy'n 50 oed a hŷn sydd angen gofal nyrsio neu ofal personol
Fodd bynnag, bydd unrhyw un sy'n iau na 65 oed, neu sydd ag anghenion y tu hwnt i'n categorïau cofrestru, yn cael ei ystyried ar sail unigol a dim ond drwy ystyriaeth arbennig gan AGC i amrywio'r cofrestriad dros dro.
Caiff manylion cyswllt lleol ar gyfer AGC eu darparu ar dudalen olaf y ddogfen hon.