Cwestiynau

Mae Canfodlle wedi cael ei ddatblygu gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru i helpu pobl a sefydliadau i ddod o hyd i leoliadau cartrefi gofal yn y rhanbarth. Mae’r wefan ddwyieithog yn darparu ‘marchnad’ i ddarparwyr a phrynwyr ddod at ei gilydd.
Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Pa wybodaeth sy'n cael ei dangos?
 

Mae’r wefan yn cynnwys cofnod o bob cartref gofal:

  • Disgrifiad o’r hyn y mae’r cartref yn ei gynnig
  • Manylion cyswllt
  • Ffotograffau (os oes rhai ar gael)
  • Dolen i ddod o hyd i’r adroddiadau arolygu diweddaraf sydd ar gael ar gyfer y cartref
Sut y mae'r cyfleuster chwilio yn gweithio?
Mae’r defnyddiwr yn nodi lleoliad. Gellir defnyddio’r cyfleuster chwilio mewn dwy ffordd: chwilio am wybodaeth am gartrefi mewn ardal (‘gweld yr holl gartrefi gofal’); neu’n fwy penodol, chwilio am y cartrefi hynny sydd â lleoedd gwag yn unig – i’w ddefnyddio lle mae mwy o frys (‘chwilio gwagleoedd’).
Pa ardal sy'n cael ei chynnwys gan Canfodlle?
Mae’r wefan yn cynnwys siroedd gorllewin Cymru ar hyn o bryd – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Gall rhagor o siroedd gael eu cynnwys, yn amodol ar gytundeb â chynghorau sir a byrddau iechyd perthnasol.
A yw'r holl gartrefi gofal yng ngorllewin Cymru yn aelodau o'r wefan?
Mae Canfodlle yn cynnwys yr holl gartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn sydd â chontract gydag unrhyw un o’r tri chyngor sir, neu’r Bwrdd Iechyd.
Ai lleoliad cartref gofal yw'r dewis cywir?
Mae’n bwysig bod hyn yn cael ei ystyried yn ofalus. Mae dewisiadau eraill ar gael, fel gofal cartref a chysylltu bywydau. Mae’n bwysig bod asesiad yn cael ei gynnal gan yr awdurdod lleol neu fwrdd iechyd, er mwyn helpu i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu yn y modd mwyaf priodol.
Sut allai i drefnu lleoliad cartref gofal i mi neu aelod o'r teulu? Beth ddylwn ei ystyried?
Gellir gweld gwybodaeth gyffredinol am gartrefi gofal yn y canllaw hwn a luniwyd gan y Comisiynydd Pobl Hŷn.
A yw'r wybodaeth ddiweddaraf am gartrefi gofal wedi'i chynnwys?
Rydym yn dibynnu ar gartrefi gofal i gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd. Cysylltwch â’r cartref dan sylw ynghylch unrhyw anghysondeb. Os bydd problemau’n parhau, cysylltwch â’ch cyngor sir.

Cwestiynau Cyffredin ar gyfer darparwyr cartrefi gofal

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Nid yw fy nghartref wedi'i gynnwys ar y wefan. Beth allaf i ei wneud?
Cysylltwch â’r cyngor sir lle mae eich cartref wedi’i leoli:

Sir Gaerfyrddin: SCHHContracting@sirgar.llyw.cymru
Ceredigion: dss.commissioning-socs@ceredigion.llyw.cymru
Sir Benfro:  socialcarecontracts@sirbenfro.llyw.cymru

Sut mae Canfodlle yn helpu i lenwi fy lleoedd gwag?
Gall y cyhoedd a sefydliadau comisiynu weld eich argaeledd yn syth drwy gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am leoedd gwag. Mae diweddaru’r statws o ran lleoedd gwag yn golygu na fydd yn rhaid i chi ateb galwadau gan bobl yn ymholi am leoedd gwag pan nad oes gennych leoedd gwag i’w cynnig.
Sut mae Canfodlle yn lleihau fy llwyth gwaith gweinyddol?
Mae Canfodlle yn cynnig porth ‘siop un stop’ ar gyfer cynnwys gwybodaeth angenrheidiol eich busnes. Cyn Canfodlle, roedd yn rhaid i ddarparwyr roi gwybodaeth weinyddol i nifer o sefydliadau comisiynu, gan orfod dyblygu gwybodaeth debyg a defnyddio prosesau gwahanol, er enghraifft, ar gyfer taliadau.
Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair. Beth ddylwn ei wneud?
Cliciwch ar ‘ailosod eich cyfrinair’ ar y sgrîn fewngofnodi. Anfonir e-bost i’r cyfeiriad e-bost rydych wedi’i nodi a fydd yn caniatáu ichi ailosod eich cyfrinair.
Ble gall darparwyr weld y canllawiau a'r wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19?
Anogir darparwyr i edrych ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Gallech hefyd edrych ar adran Coronafeirws (Covid-19) gwefan Arolygiaeth Gofal Cymru, gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth a dolenni defnyddiol.
Sut ydw i'n cynnwys ein lleoedd gwag?
Ar y dudalen lleoedd gwag, gofynnir ichi gynnwys cyfanswm y gwelyau gwag sydd ar gael gennych. Mae’n rhaid ichi gofnodi hyn fel yr argaeledd mwyaf yn y dadansoddiad. Er enghraifft, os oes gwely ar gael ar gyfer gofal nyrsio, ond gellir ei ddefnyddio at ddibenion preswyl hefyd, byddwch yn cynnwys hwn fel lle gwag nyrsio. Bydd comisiynwyr o’r 4 sefydliad yng ngorllewin Cymru yn cymryd arnynt y gellir defnyddio gwely nyrsio at ddibenion preswyl.
Pryd a pha mor aml y dylwn i gynnwys lleoedd gwag?
Dylid cynnwys y rhain cyn gynted ag y byddant ar gael. Bydd comisiynwyr ac ymarferwyr yn defnyddio’r wefan bob dydd at y diben hwn.
Pryd ddylwn i gynnwys y wybodaeth reoli ddiweddaraf?
Gwybodaeth wythnosol – erbyn 11am dydd Llun

Gwybodaeth fisol – rhaid i’r wybodaeth ddiweddaraf hon gael ei chynnwys erbyn 11am fan hwyraf ar y dydd Llun cyntaf ar ôl diwedd y mis calendr.

A fyddaf yn cael e-bost ar ôl cynnwys gwybodaeth?
Byddwch, byddwch yn cael e-bost awtomatig pan fyddwch yn cyflwyno eich gwybodaeth am symudiadau wythnosol. Bydd yr e-bost hwn yn dweud wrthych ym mha gategorïau rydych wedi cynnwys gwybodaeth ar gyfer y dyddiad hwnnw. Fodd bynnag, nid yw gwybodaeth benodol wedi’i chynnwys yn yr e-bost gan ei fod yn wybodaeth am ddiogelu.
A oes modd i mi gynnwys mwy nag un cofnod mewn trafodion ar y symudiadau wythnosol?
Oes, heblaw am ‘Dim Newid’. Gallwch gynnwys sawl rhif ar gyfer pob categori a gallwch gynnwys pob categori mewn un cofnod.
A oes rhaid i mi wneud cofnod o'r symudiadau wythnosol os nad oes gen i symudiadau yn y cartref?
Oes, mae opsiwn dim newid sy’n rhoi gwybod i’r tîm taliadau a’r comisiynwyr nad ydych wedi cael unrhyw newidiadau yr wythnos hon.