Care Home Category: Residential
Cyfleuster pwrpasol a agorodd yn 2006 gan ddisodli’r Cartref gwreiddiol a oedd wedi bod ar y safle ers y 1970au yw Maes Llewellyn. Mae’r Cartref wedi’i leoli oddi ar y brif stryd ym mhen pellaf Lôn yr Eglwys mewn gerddi deniadol drws nesaf i’r Parc.
Mae’r Cartref wedi’i gofrestru i ddarparu llety ar gyfer hyd at 40 o bobl, gyda’r cyfleusterau wedi’u rhannu’n 5 uned dros ddau lawr.
Ar y llawr gwaelod mae 8 gwely yn Uned Cawdor, y mae 2 ohonynt ar gyfer darpariaeth cymorth ailalluogi preswyl byrdymor a 6 ohonynt ar gyfer darpariaeth gofal hirdymor. Mae 8 gwely ar Uned Cilgwyn sydd ar gyfer darpariaeth gofal a chymorth hirdymor i bobl sydd wedi cael diagnosis dementia isel neu gymedrol.
Ar y llawr cyntaf mae 3 Uned - Dwylan, Teifi a Nest sydd â lle ar gyfer cyfanswm o 24 o bobl, 22 ohonynt ar sail barhaol hirdymor a 2 wely ar gyfer gofal seibiant byrdymor.
Cefnogir Maes Llewellyn gan Bractis Meddygon Teulu Meddygfa Emlyn yn y dref a hefyd gan Bractis Meddygfa Teifi yn Llandysul.
Mae’r Tîm Rheoli a’r Tîm o Staff ym Maes Llewellyn yn ymrwymedig i roi gofal a chymorth o safon dda i’r holl Drigolion sy’n byw yn y Cartref, gan geisio cefnogi hunaniaeth bersonol a dyheadau Preswylwyr mewn amgylchedd diogel, cysurus a chartrefol er mwyn cyflawni canlyniadau cadarnhaol.