-
Mae Cartref Preswyl Hafan Deg wedi'i leoli yn nhref brifysgol Llanbedr Pont Steffan. Mae'r cartref preswyl wedi'i leoli o fewn pellter cerdded byr i siopau, swyddfa bost, llwybrau bysiau, caffis, bwytai ac amwynderau lleol eraill. Mae'r cartref yn cynnig 20 o leoedd preswyl, gan gynnwys rhai tymor byr, dros dro, parhaol a gofal seibiant. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth gofal dydd ar gyfer uchafswm o ddau unigolyn. Mae canolfan ddydd hefyd wed... Gweld Lleoliad
-
CYFLWYNIAD Mae Abermad wedi'i leoli ar ei diroedd preifat ei hun ar gyrion pentrefi Llanfarian a Llanilar, i'r de ond o fewn mynediad hawdd i Aberystwyth a'r holl amwynderau a gynigir yno. Adeiladwyd Abermad yn 1870 fel plas preifat ac, erbyn hyn, mae'n adeilad rhestredig Gradd II. Defnyddiwyd yr adeilad fel ysgol breifat am nifer o flynyddoedd cyn cael ei droi’n gartref nyrsio ryw 30 a mwy o flynyddoedd yn ôl. Kim McKay yw perchennog y b... Gweld Lleoliad
-
Mae Belvedere House yn gartref i 19 o breswylwyr ac mae'n cynnwys tŷ mawr o'r 19eg ganrif sydd wedi cael ei ymestyn a'i foderneiddio i ddiwallu anghenion ein preswylwyr. Mae'r holl ystafelloedd wedi eu dodrefnu a'u haddurno i safon uchel. Gall yr ystafelloedd gael eu personoli gan y preswylwyr a'u teuluoedd a ffrindiau i greu amgylchedd mwy cyfarwydd a chartrefol. Rydym yn darparu gofal dydd, gofal seibiant a gofal hirdymor i unigolion sydd â ... Gweld Lleoliad
-
Mae Highgrove wedi'i leoli mewn ardal breswyl yn nhref Hwlffordd, Sir Benfro. Mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer yr holl amwynderau hanfodol ac ond ychydig funudau i ffwrdd o forlin hardd Sir Benfro, gan gynnwys y Parc Cenedlaethol. Rydym yn falch o gynnig gofal i 30 o breswylwyr, gan eu galluogi i gynnal eu hurddas a'u hannibyniaeth. Rydym yn ymfalchïo am fod yn hyblyg ac am addasu i anghenion y preswylwyr. Rydym yn deall bod anghenion unigol... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Preswyl yr Hafod wedi'i leoli yn nhref hanesyddol Aberteifi. Mae'r cartref preswyl wedi'i leoli o fewn pellter cerdded byr i’r siopau, llwybrau bysiau ac amwynderau lleol eraill, gan gynnwys pwll nofio, theatr, sinema a'r castell, sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar ac sydd yn gyfagos ag afon Teifi. Mae'r cartref yn cynnig 28 o leoedd preswyl, gan gynnwys rhai tymor byr, dros dro, parhaol a gwely seibiant. Rydym yn darparu gofal ... Gweld Lleoliad
-
Mae Waungron yn gyn-breswylfa Sioraidd bonheddwr, a leolir mewn pedair erw ar ddeg o gefn gwlad hardd Sir Benfro sy'n edrych dros dref hynafol Hendy-gwyn ar Daf gyda golygfeydd godidog at Fynydd Preseli. Wedi'i gofrestru ar gyfer 15 o breswylwyr hÅ·n, rydym yn gartref bach "tebyg i deulu" sy'n anelu at hyrwyddo annibyniaeth tra bo'n parchu anghenion corfforol, emosiynol ac ysbrydol unigolion. ... Gweld Lleoliad
-
Lleoliad Mae cartref gofal maes Y Felin wedi ei leoli yn ei erddi ei hun yn Nyffryn Teifi hardd, dim ond pellter byr o dref farchnad Llanybydder a Thref Prifysgol Llanbedr Pont Steffan. Mae'r trefi hyn yn hawdd eu cyrraedd drwy'r gwasanaethau lleol ' Bwc a bws ' ac yn cynnal llu o siopau a chyfleusterau, megis meddygfeydd meddygon teulu, gwnwyr gwallt, barbwyr, Llyfrgell, ciropodyddion, optegwyr, deintyddion, ffisiotherapyddion a fferyllfeydd. D... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Annwyl Fan yn gartref gofal wedi'i gynllunio'n arbennig sy'n cyfuno mentrau cynllunio arobryn â'r safonau uchaf o ofal preswyl, nyrsio a dementia. Yr hyn sy'n bwysig i Gartref Annwyl Fan yw creu awyrgylch cartrefol a hamddenol wrth ddarparu gofal o safon. Mae ein gofal sy'n canolbwyntio ar greu perthynas yn galluogi preswylwyr i barhau i wneud y pethau maen nhw bob amser wedi mwynhau eu gwneud – y pethau nad oedden nhw'n credu ... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Nyrsio Allt-y-mynydd yn gartref nyrsio cyffredinol â 44 gwely ac wedi'i adeiladu’n bwrpasol ac mae’n cwmpasu pob agwedd ar ofal preswyl, nyrsio a phreswyl dementia. Mae gan y cartref diroedd helaeth wedi'u lleoli yng Nghoedwig Brechfa yn edrych dros ddyffryn pictiwrésg Cwm Duar, yng nghalon cefn gwlad hyfryd Cymru. Mae'r ardal leol yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt lleol, ac mae wedi'i lleoli dim ond tair milltir y tu allan i Lan... Gweld Lleoliad
-
Mae Blaenos House wedi'i leoli ynghanol cefn gwlad gorllewin Cymru ychydig y tu allan i dref farchnad Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, gyda mynediad hawdd at Aberhonddu, Caerfyrddin a'r ardaloedd cyfagos. Mae'r cartref yn gyfleus ar gyfer nifer o gyfleusterau lleol fel siopau, tafarndai, llyfrgell, parc / lawnt fowlio a llwybrau bws a thrên. Mae'r cartref yn cael ei ailwampio ymhellach i wella'r llety a gynigir yn ein hystafelloedd sengl. Ma... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Nyrsio Rickeston Mill wedi'i leoli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mewn lleoliad heddychlon ar Rickeston Bridge. Mae o fewn cyrraedd hawdd i Hwlffordd, Aberdaugleddau, Doc Penfro, Dale a phentrefi hyfryd eraill gyda llawer o fwytai, orielau, siopau a thafarndai lleol. Mae yna hefyd nifer o gyrsiau golff, teithiau cefn gwlad a natur gyda mynediad i'r Llwybr Costal ac wrth gwrs ein traethau hardd a'r môr. Yn Rickeston rydym yn... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Gofal Towy Castle yn blasty o'r ddeunawfed ganrif sydd wedi'i drawsnewid yn hardd a'i leoli mewn tair erw o diroedd preifat gyda golygfeydd godidog o aber afon Tywi o'i amgylch. Mae'r cartref a gaiff ei redeg gan deulu yn darparu amrediad o becynnau gofal hyblyg a phwrpasol ar gyfer gofal preswyl hirdymor a gofal dydd. Yn ogystal, ychwanegwyd uned gofal dementia arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol i'r cartref yn 2012. Mae'r staff y... Gweld Lleoliad
-
Croeso i Gartref Preswyl Annedd Mae Annedd yn gartref preswyl bach a chyfeillgar sydd wedi cael ei adnewyddu'n llwyr yn ddiweddar gan y perchnogion presennol. Mae Annedd wedi'i leoli yn ardal drefol a thawel tref farchnad fach Llanybydder, sy'n agos at afon Teifi yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r cartref wedi'i leoli ar ei dir ei hun gyda golygfeydd gwledig o’r cefn gwlad cyfagos, ond o fewn cyrraedd hawdd at amwynderau lleol a gwasanaethau cymuned... Gweld Lleoliad
-
Mae St. Teresa's yn gartref preswyl ble mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu a lle mae ganddynt ddewis a rheolaeth dros eu bywydau. Mae St. Teresa's yn eiddo i’r Chwiorydd Trugaredd, y mae eu gwaith arbennig yn cynnwys dysgu, gofalu am bobl sâl / yr henoed, rhoi lloches i'r digartref, ac ymweld â charcharorion ac ati. Sefydlwyd y Chwiorydd yn Iwerddon yn 1831 gan ddynes ifanc o'r enw Catherine McAuley. Mae Cartref Gorffwy... Gweld Lleoliad
-
Rydym yn cynnig gofal hirdymor (a gofal seibiant) i breswylwyr sydd angen gofal i oedolion oedrannus neu leoliadau preswyl i henoed bregus eu meddwl (dementia). Rydym yn falch o'n henw da a hirfaith a gafodd ei feithrin drwy waith caled ar gyfer gofal proffesiynol a sensitif a ddarperir gan staff sydd wedi bod gyda ni ers llawer o flynyddoedd. Gyda llawer o staff sy'n siarad Cymraeg ac wedi'u hyfforddi'n drwyadl, rydym yn darparu gofal ystyrlon... Gweld Lleoliad
-
Cartref gofal preswyl ar gyfer oedolion o 40 oed... Gweld Lleoliad
-
Mae Woodfield yn gartref gofal diarffordd sy'n darparu gofal dementia arbenigol i 24 o bobl ac sydd wedi'i leoli ar gyrion tref boblogaidd Arberth. Mae'r cartref wedi'i leoli yng nghanol ardal dwristaidd fawr, yr ydym yn manteisio i'r eithaf arni drwy fynd â'r preswylwyr i nifer o atyniadau a mannau o brydferthwch. Mae Woodfield wedi ymroi i ddarparu gofal o'r safon uchaf i'w holl breswylwyr. Yr ydym yn ymfalchïo yn ein henw da ym maes gofa... Gweld Lleoliad
-
Mae Fairfield yn gartref gofal wedi'i adeiladu’n bwrpasol ac fe'i cofrestrwyd yn gyntaf ar 23 Hydref 1992 o dan berchnogaeth breifat Mrs S. Chaudhry. Mae wedi'i leoli ar ei dir ei hun ym mhentref Cymreig bach Johnston, sydd tua phum milltir o drefi Aberdaugleddau a Hwlffordd yn Sir Benfro ac yn agos at draethau lleol a Mynydd Preseli. Mae yno gymuned Gymreig glos iawn ble mae gwerthoedd teulu traddodiadol yn parhau'n gryf. Caiff y gwerthoedd ... Gweld Lleoliad
-
Mae Parc-y-llyn wedi'i leoli yn unigryw ar ei dir ei hun yng nghefn gwlad hardd a heddychlon Sir Benfro. Ein nod bob amser yw creu awyrgylch hamddenol ym Mharc-y-llyn, lle y bo preswylwyr yn teimlo'n ymlaciedig ac yn fodlon. Rydym yn ceisio darparu'r gofal ychwanegol y mae rhai o'n preswylwyr ei angen ac yn ei werthfawrogi, gan ei wneud yn bosibl i ni barhau ein gofal hirdymor. Mae ffrindiau a theuluoedd y preswylwyr yn cael eu hannog i ystyr... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Preswyl Tregerddan wedi'i leoli ym mhentref Bow Street, i'r gogledd o Aberystwyth. Mae'r cartref preswyl wedi'i leoli o fewn pellter cerdded byr i siop y pentref, llwybrau bysiau ac amwynderau lleol eraill. Mae'r cartref yn cynnig 28 o leoedd preswyl, gan gynnwys rhai tymor byr, dros dro, parhaol a gofal seibiant. Caiff ystafelloedd gwely eu lleoli ar ddau lawr. Rydym hefyd yn darparu nifer bach o gyfleoedd gofal dydd. Rydym yn da... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Gofal Gwernllwyn ym mhentref Cross Hands, Sir Gaerfyrddin. Er ei bod yn ardal wledig, mae'n cael ei gwasanaethu'n dda gan systemau ffyrdd mawr ac mae'n gyfleus o agos at yr M4. Mae trefi Llanelli, Caerfyrddin a Llandeilo lai na 30 munud i ffwrdd ac yn hawdd eu cyrraedd. Mae gan y pentref amrywiaeth o Archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau, bwytai, siopau coffi, fferyllfeydd a swyddfa bost a rhai atyniadau lleol diddorol. Yng N... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Havenhurst yn darparu cymorth ar gyfer oedolion hŷn sydd â thrafferthion gwybyddol, dementia a phroblemau iechyd meddwl eraill. Mae Havenhurst yn darparu saith gwely asesiad, saith gwely seibiant a chwe gwely gofal hirdymor. - Mae 20 ystafell wely sengl. - Nid yw Cartref Havenhurst yn benodol ar gyfer un rhyw. - Bydd pob unigolyn yn cael asesiad i sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu diwallu ei anghenion. - Mae Cartref Havenhur... Gweld Lleoliad














