-
Mae Cartref Gofal Towy Castle yn blasty o'r ddeunawfed ganrif sydd wedi'i drawsnewid yn hardd a'i leoli mewn tair erw o diroedd preifat gyda golygfeydd godidog o aber afon Tywi o'i amgylch. Mae'r cartref a gaiff ei redeg gan deulu yn darparu amrediad o becynnau gofal hyblyg a phwrpasol ar gyfer gofal preswyl hirdymor a gofal dydd. Yn ogystal, ychwanegwyd uned gofal dementia arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol i'r cartref yn 2012. Mae'r staff y... Gweld Lleoliad
-
Mae ein Cartref mewn adeilad Sioraidd hyfryd Adeiladwyd yn wreiddiol gan adeilad yr Arglwyddes Stepney (Hanesyddol) ar gyrion Llanelli yng nghymuned ffyniannus Pwll yn edrych dros fae Llanelli. Cyfeiriad y cartref yw Cartref Gofal Cilymaenllwyd Beech Grove Pwll Llanelli SA15 4RB Sir Gaerfyrddin. Nod y cartref yw darparu gwasanaeth ar gyfer yr henoed dros 65 oed, sydd wedi'i anelu'n bennaf at ofalu am bobl hÅ·n a dementia / eiddil eu meddwl ac yn... Gweld Lleoliad
-
DATGANIAD O DDIBEN Cartref preswyl i un ar bymtheg o bobl hŷn (dros 65 oed), yn ddynion a merched yw Cartref Gofal Y Garreg Lwyd, a gofrestrwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae wedi’i leoli ar lôn wledig dawel, tua milltir o dref fach Sanclêr. Mae erw neu ddwy o erddi o gwmpas y cartref, a cheir mynediad uniongyrchol iddynt o’r rhan fwyaf o’r ystafelloedd. Mae’r staff yn cael eu recriwtio o’r ardal leol ac mae’r rha... Gweld Lleoliad
-
Rydym yn cynnig gofal hirdymor (a gofal seibiant) i breswylwyr sydd angen gofal i oedolion oedrannus neu leoliadau preswyl i henoed bregus eu meddwl (dementia). Rydym yn falch o'n henw da a hirfaith a gafodd ei feithrin drwy waith caled ar gyfer gofal proffesiynol a sensitif a ddarperir gan staff sydd wedi bod gyda ni ers llawer o flynyddoedd. Gyda llawer o staff sy'n siarad Cymraeg ac wedi'u hyfforddi'n drwyadl, rydym yn darparu gofal ystyrlon... Gweld Lleoliad
-
Mae Affalon House yn adeilad cyfnod dau lawr deniadol, a gofrestrwyd yn gyntaf fel cartref gofal gyda nyrsio ar 11 Awst 1989. Mae wedi'i leoli'n agos i ganol tref Llanelli ac mae modd ei gyrraedd yn hawdd drwy drafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau ffyrdd ardderchog, gan gynnwys yr M4. Mae cymuned Gymreig glos ble mae gwerthoedd teulu traddodiadol yn parhau'n gryf ac mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i nifer o aelodau'r gymuned. Mae nifer o'r ... Gweld Lleoliad
-
Cartref nyrsio preifat â 34 gwely.... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Nyrsio Allt-y-mynydd yn gartref nyrsio cyffredinol â 44 gwely ac wedi'i adeiladu’n bwrpasol ac mae’n cwmpasu pob agwedd ar ofal preswyl, nyrsio a phreswyl dementia. Mae gan y cartref diroedd helaeth wedi'u lleoli yng Nghoedwig Brechfa yn edrych dros ddyffryn pictiwrésg Cwm Duar, yng nghalon cefn gwlad hyfryd Cymru. Mae'r ardal leol yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt lleol, ac mae wedi'i lleoli dim ond tair milltir y tu allan i Lan... Gweld Lleoliad
-
Cartref gofal preswyl 21 gwely yw Garnant House a leolir ym mhentref y Garnant ar y prif lwybrau bysiau, a dim ond tair milltir o Rydaman a saith milltir o Bontardawe. Yn ogystal â gwelyau preswyl, rydym hefyd yn cynnig lleoliadau ar gyfer henoed bregus eu meddwl. Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi cael ein pleidleisio ymhlith yr 20 cartref gofal gorau yng Nghrymu drwy wefan www.carehome.co.uk am dair blynedd yn olynol o 2016 i 2018. ... Gweld Lleoliad
-
Mae Torestin yn gartref preswyl ar gyfer pobl hŷn sy’n gofalu am 44 o bobl hŷn ac sydd wedi'i leoli ym mhentref Tiers Cross, sy'n agos i Hwlffordd. Mae'r cartref wedi'i leoli yng nghanol ardal dwristaidd fawr, yr ydym yn manteisio i'r eithaf arni drwy fynd â'r preswylwyr i nifer o atyniadau a mannau o brydferthwch. Ein diben yw cofio eich bod chi yn unigolyn sydd â hawl i benderfynu sut i fyw eich bywyd. Byddwch yn sicr o gael ystafell... Gweld Lleoliad
-
Mae cartref preswyl henoed Cartref wedi ei leoli yn mhentref Henllan yn Nyffryn Teifi, tua 3 miltir o dref Gastell Newydd Emlyn. Yn agos i’r cartref mae yna Swyddfa Bost a Gorsaf Trên Bro Teifi. Mae Cartref yn darparu amgylched chartrefol, hamddenol a diogel i’w preswylwyr, gyda’u gofal, lles a chysur o’r pwysigrwydd pennaf. Mae ein staff hyfforddiedig yn ymdrechu I gadw a chynnal urddas, hunaniaeth a phreifatrwydd bob preswylydd o ... Gweld Lleoliad
-
Cartref gofal preswyl ar gyfer oedolion o 40 oed... Gweld Lleoliad
-
Mae Belvedere House yn gartref i 19 o breswylwyr ac mae'n cynnwys tŷ mawr o'r 19eg ganrif sydd wedi cael ei ymestyn a'i foderneiddio i ddiwallu anghenion ein preswylwyr. Mae'r holl ystafelloedd wedi eu dodrefnu a'u haddurno i safon uchel. Gall yr ystafelloedd gael eu personoli gan y preswylwyr a'u teuluoedd a ffrindiau i greu amgylchedd mwy cyfarwydd a chartrefol. Rydym yn darparu gofal dydd, gofal seibiant a gofal hirdymor i unigolion sydd â ... Gweld Lleoliad
-
Rydym yn gartref sy'n cefnogi amrediad o anghenion gofal henoed. Ceir pedair ward, yn cynnwys ward ysbyty ar gyfer deg unigolyn, un arall sy'n cynnig cyfadeilad cymorth un-i-un ar gyfer gofal seibiant, un arall sy'n cefnogi problemau iechyd meddwl, a'r olaf ar gyfer pobl fregus. Mae ein gweithlu wedi'i hyfforddi'n llawn gyda llawer o wobrwyon (rhai yn ddigymell), gan adlewyrchu ein gallu i ymateb i gynllun gofal personol pob preswylydd newydd. Ma... Gweld Lleoliad
-
Grwp o wragedd a gafodd y weledigaeth o sefydlu cartref henoed i'r Bedyddwyr a chefnogwyd eu dyhead gan fudiad Chwiorydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Gwireddwyd eu gweledigaeth pan agorwyd Cartref Glyn Nest yn 1970. Fe'i lleolir mewn man dymunol ac mae'n gyfleus i'r dref. Cwblhawyd estyniadau sylweddol yn 1992 a 2009. Mae 28 o welyau cofrestredig yng Nglyn Nest yn cynnwys gwelyau i'r henoed sy'n dioddef o ddementia. Mae'r cartref yn croesawu pobl ... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Preswyl Hafan Deg wedi'i leoli yn nhref brifysgol Llanbedr Pont Steffan. Mae'r cartref preswyl wedi'i leoli o fewn pellter cerdded byr i siopau, swyddfa bost, llwybrau bysiau, caffis, bwytai ac amwynderau lleol eraill. Mae'r cartref yn cynnig 20 o leoedd preswyl, gan gynnwys rhai tymor byr, dros dro, parhaol a gofal seibiant. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth gofal dydd ar gyfer uchafswm o ddau unigolyn. Mae canolfan ddydd hefyd wed... Gweld Lleoliad
-
Mae Llys Fechan yn gartref preswyl dan berchnogaeth teulu sydd wedi'i leoli ym mhentref Cross Hands. Cofrestrwyd y cartref ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o dan berchnogion presennol Andrew a Joanna Miles ym mis Awst 2007, er mwyn darparu gofal i 18 o breswylwyr, dynion a menywod, sy'n hŷn na 65 oed. Mae'r cartref, sydd wedi ei adeiladu’n bwrpasol, wedi'i leoli ar erw o dir amaethyddol gyda digon o ardaloedd i eistedd yn yr awyr agored i b... Gweld Lleoliad
-
Mae Melbourne House wedi bod yn gartref preswyl y sefydliad ers 1996. Mae'r tîm gofal yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth gofal proffesiynol iawn ar gyfer yr henoed, gyda dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na'r rheswm ei fod mewn lleoliad gofal. Mae Melbourne House yn falch o ddarparu ar gyfer pobl y mae arnynt angen gofal hirdymor, gofal byrdymor a hefyd gofal seibiant. Mae pentref Cross Hands yn cynnig digonedd o s... Gweld Lleoliad
-
Mae Brynhelyg wedi'i leoli ar dir preifat eang ym mhentref Bynea, pedair milltir o ganol tref Llanelli. Mae wedi'i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddarparu ar gyfer 25 o breswylwyr sydd ag amrediad o anghenion, yn amrywio o rhai preswyl, henoed bregus eu meddwl, anhwylderau iechyd meddwl, nam ar eu golwg a chlyw, bregus a methedig, gyda chymorth ar gyfer anghenion meddygol arbennig. Rydym yn darparu gwasanaeth ar gyfer 12 preswylydd ... Gweld Lleoliad
-
Mae Ashley Court Care yn gartref sy'n cynnwys 47 gwely ac yn eiddo i Premier 1 Healthcare. Mae'r cartref wedi'i leoli yng nghanol tref Llanelli ac o fewn deg munud ar droed i siopau ac amwynderau. Mae cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus gwych â'r cartref. Yn Ashley Court Care, mae ein prif bwyslais ar ansawdd bywyd cleient. Ein hethos yw, os yw person yn heini, yn fodlon ac yn mwynhau ei fywyd o ddydd i ddydd, bydd yn byw bywyd llewyrchus hi... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Ael-y-bryn yn gartref preswyl ar gyfer henoed bregus eu meddwl (dementia) wedi'i leoli ym Mhen-y-banc, Rhydaman. Ein nodau yw rhoi pwrpas ystyrlon i holl ddefnyddwyr ein gwasanaeth o fewn y gymuned ffyniannus, lle mae defnyddwyr y gwasanaeth, staff ac ymwelwyr yn uno i fwynhau bywyd. Anogir defnyddwyr y gwasanaeth sydd â diddordeb mewn dod i Gartref Ael-y-bryn i ymweld â'r cartref a chael blas ar lefel y gwasanaeth a'r awyrgylch. ... Gweld Lleoliad
-
Mae Dolyfelin yn gartref gofal pwrpasol a agorwyd yn y 1970au. Dros y blynyddoedd mae wedi elwa ar waith gwella ac adnewyddu sylweddol gan ymdrechu bob amser i gynnal llety a chyfleusterau o safon dda i ddiwallu anghenion gofal a chwrdd â disgwyliadau'r bobl sy’n byw yno. Mae'r Cartref wedi'i gofrestru i ddarparu gofal a chymorth ar gyfer hyd at 33 o bobl ar sail dros dro neu barhaol. Mae hyn yn cynnwys darparu 1 wely seibiant, 8 gwely ar ... Gweld Lleoliad
-
Mae Carlton House yn gartref gofal preswyl mewn safle aruchel gyda golygfeydd panoramig dros bentref Llan-non a Bae Ceredigion. Mae'r lawntiau a'r gerddi yn y blaen a'r cefn yn ddelfrydol ar gyfer eistedd yn yr awyr agored yn ystod misoedd yr haf. Ceir 16 ystafell wely, ac mae cyfleusterau en suite yn y rhan fwyaf, yn ymestyn dros dri llawr. Ceir lifftiau i deithwyr i bob llawr. Rydym wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o "gartref oddi cartref" a... Gweld Lleoliad











