-
Mae Canolfan Adnoddau Bryntirion wedi'i lleoli ar gyrion tref farchnad fach Tregaron, ardal o brydferthwch rhagorol, yng nghalon gorllewin Cymru. Mae'r cartref preswyl wedi'i leoli o fewn pellter agos i siopau, swyddfa bost, caffis, bwytai ac amwynderau eraill. Mae gwasanaeth bws bob dwy awr i drefi cyfagos Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth sy'n weithredol am chwe diwrnod yr wythnos. Mae'r cartref yn gartref preswyl 15 gwely sy'n darparu llet... Gweld Lleoliad
-
Rydym yn gartref sy'n cefnogi amrediad o anghenion gofal henoed. Ceir pedair ward, yn cynnwys ward ysbyty ar gyfer deg unigolyn, un arall sy'n cynnig cyfadeilad cymorth un-i-un ar gyfer gofal seibiant, un arall sy'n cefnogi problemau iechyd meddwl, a'r olaf ar gyfer pobl fregus. Mae ein gweithlu wedi'i hyfforddi'n llawn gyda llawer o wobrwyon (rhai yn ddigymell), gan adlewyrchu ein gallu i ymateb i gynllun gofal personol pob preswylydd newydd. Ma... Gweld Lleoliad
-
Mae Brooklands yn Cartref Nyrsio yn arbenigo a chefnogi 40 o bobl oedrannus sydd a salwch iechyd meddwl. Mae ein 24 awr gofal yn cael ei ddarparu gan staff profiadol nyrsio a’r staff gofal sydd yn hyrwyddo lles pob unigolyn wrth ddefnyddio person-ganolog a dull teulu. Rydym yn agos i Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod. Mae ein Trefnwyr Gweithgareddau yn paratoi yn gyson rhaglen amrywiol a diddorol, cerddorieth a gwibdeithiau i’r lleoliadau... Gweld Lleoliad
-
Mae Pembroke Haven (Residential Homes) Ltd yn fusnes teulu lleol ac annibynnol sydd wedi bod yn darparu cymorth a gofal i'r henoed am dros 40 mlynedd. Mae'r cartref wedi'i adeiladu'n bwrpasol ac yn darparu lleoliad gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn. Wedi'i leoli yn ardal Llanion yn Noc Penfro, mae'r cartref wedi’i leoli ar safle amlwg iawn sy'n edrych dros ddyfrffordd Aberdaugleddau. Mae Pembroke Haven yn darparu gofal preswyl i'r rheiny... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Gofal Gwernllwyn ym mhentref Cross Hands, Sir Gaerfyrddin. Er ei bod yn ardal wledig, mae'n cael ei gwasanaethu'n dda gan systemau ffyrdd mawr ac mae'n gyfleus o agos at yr M4. Mae trefi Llanelli, Caerfyrddin a Llandeilo lai na 30 munud i ffwrdd ac yn hawdd eu cyrraedd. Mae gan y pentref amrywiaeth o Archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau, bwytai, siopau coffi, fferyllfeydd a swyddfa bost a rhai atyniadau lleol diddorol. Yng N... Gweld Lleoliad
-
Mae St. Teresa's yn gartref preswyl ble mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu a lle mae ganddynt ddewis a rheolaeth dros eu bywydau. Mae St. Teresa's yn eiddo i’r Chwiorydd Trugaredd, y mae eu gwaith arbennig yn cynnwys dysgu, gofalu am bobl sâl / yr henoed, rhoi lloches i'r digartref, ac ymweld â charcharorion ac ati. Sefydlwyd y Chwiorydd yn Iwerddon yn 1831 gan ddynes ifanc o'r enw Catherine McAuley. Mae Cartref Gorffwy... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Preswyl yr Hafod wedi'i leoli yn nhref hanesyddol Aberteifi. Mae'r cartref preswyl wedi'i leoli o fewn pellter cerdded byr i’r siopau, llwybrau bysiau ac amwynderau lleol eraill, gan gynnwys pwll nofio, theatr, sinema a'r castell, sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar ac sydd yn gyfagos ag afon Teifi. Mae'r cartref yn cynnig 28 o leoedd preswyl, gan gynnwys rhai tymor byr, dros dro, parhaol a gwely seibiant. Rydym yn darparu gofal ... Gweld Lleoliad
-
Mae Belvedere House yn gartref i 19 o breswylwyr ac mae'n cynnwys tŷ mawr o'r 19eg ganrif sydd wedi cael ei ymestyn a'i foderneiddio i ddiwallu anghenion ein preswylwyr. Mae'r holl ystafelloedd wedi eu dodrefnu a'u haddurno i safon uchel. Gall yr ystafelloedd gael eu personoli gan y preswylwyr a'u teuluoedd a ffrindiau i greu amgylchedd mwy cyfarwydd a chartrefol. Rydym yn darparu gofal dydd, gofal seibiant a gofal hirdymor i unigolion sydd â ... Gweld Lleoliad
-
Mae Plas-y-dderwen yn ymfalchïo yn darparu gwasanaethau o safon uchel i unigolion y mae arnynt angen gofal nyrsio, preswyl a dementia. Rydym yn ymgymryd ag asesiadau cadarn i sicrhau y caiff anghenion preswylwyr eu diwallu drwy gynllunio gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac rydym yn hyrwyddo pwysigrwydd dewis, urddas a pharch ar bob adeg. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau y cyflawnir y canlyniadau go... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Nyrsio Allt-y-mynydd yn gartref nyrsio cyffredinol â 44 gwely ac wedi'i adeiladu’n bwrpasol ac mae’n cwmpasu pob agwedd ar ofal preswyl, nyrsio a phreswyl dementia. Mae gan y cartref diroedd helaeth wedi'u lleoli yng Nghoedwig Brechfa yn edrych dros ddyffryn pictiwrésg Cwm Duar, yng nghalon cefn gwlad hyfryd Cymru. Mae'r ardal leol yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt lleol, ac mae wedi'i lleoli dim ond tair milltir y tu allan i Lan... Gweld Lleoliad
-
Cyfleuster pwrpasol a agorodd yn 2006 gan ddisodli’r Cartref gwreiddiol a oedd wedi bod ar y safle ers y 1970au yw Maes Llewellyn. Mae’r Cartref wedi’i leoli oddi ar y brif stryd ym mhen pellaf Lôn yr Eglwys mewn gerddi deniadol drws nesaf i’r Parc. Mae’r Cartref wedi’i gofrestru i ddarparu llety ar gyfer hyd at 40 o bobl, gyda’r cyfleusterau wedi’u rhannu’n 5 uned dros ddau lawr. Ar y llawr gwaelod mae 8 gwely yn Uned Cawdo... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Gofal Towy Castle yn blasty o'r ddeunawfed ganrif sydd wedi'i drawsnewid yn hardd a'i leoli mewn tair erw o diroedd preifat gyda golygfeydd godidog o aber afon Tywi o'i amgylch. Mae'r cartref a gaiff ei redeg gan deulu yn darparu amrediad o becynnau gofal hyblyg a phwrpasol ar gyfer gofal preswyl hirdymor a gofal dydd. Yn ogystal, ychwanegwyd uned gofal dementia arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol i'r cartref yn 2012. Mae'r staff y... Gweld Lleoliad
-
Mae Highgrove wedi'i leoli mewn ardal breswyl yn nhref Hwlffordd, Sir Benfro. Mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer yr holl amwynderau hanfodol ac ond ychydig funudau i ffwrdd o forlin hardd Sir Benfro, gan gynnwys y Parc Cenedlaethol. Rydym yn falch o gynnig gofal i 30 o breswylwyr, gan eu galluogi i gynnal eu hurddas a'u hannibyniaeth. Rydym yn ymfalchïo am fod yn hyblyg ac am addasu i anghenion y preswylwyr. Rydym yn deall bod anghenion unigol... Gweld Lleoliad
-
Rydym yn fusnes teuluol ar gyfer 15 o unigolion. Mae Lynnefield ym mherchnogaeth Mr a Mrs Rusev sydd ar y safle bron bob dydd, maen nhw'n cael cymorth gan reolwr, tîm o uwch-ofalwyr a thîm amrywiol o staff gweithgareddau, gofal, domestig a'r gegin. Mae gan reolwr ein cartref dros 32 mlynedd o brofiad mewn lleoliadau gofal amrywiol. Mae hi'n rhan amlwg o'r gymuned leol. Mae Lynnefield yn ymfalchïo yn ei goginio cartref; mae pob pryd yn ... Gweld Lleoliad
-
Mae Caldey Grange yn gartref lle rydym yn deall gwerth pob unigolyn. Rydym yn darparu safon uchaf o ofal a chymorth ac yn cydnabod angen i fwynhau bywyd. Mae ein cartref yn ddiogel gyda staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda i gynorthwyo rhai sy’n byw gyda dementia. Mae Caldey yn gartref sydd yn llawn hwyl a chwerthin. Bydd ein trigolion a’r rheini sy’n defnyddio ein gwasanaeth gofal dydd yn mwynhau ein rhaglen adloniant llawn ac amrywiol... Gweld Lleoliad









