-
Cyfleuster pwrpasol a agorodd yn 2006 gan ddisodli’r Cartref gwreiddiol a oedd wedi bod ar y safle ers y 1970au yw Maes Llewellyn. Mae’r Cartref wedi’i leoli oddi ar y brif stryd ym mhen pellaf Lôn yr Eglwys mewn gerddi deniadol drws nesaf i’r Parc. Mae’r Cartref wedi’i gofrestru i ddarparu llety ar gyfer hyd at 40 o bobl, gyda’r cyfleusterau wedi’u rhannu’n 5 uned dros ddau lawr. Ar y llawr gwaelod mae 8 gwely yn Uned Cawdo... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Nyrsio Rickeston Mill wedi'i leoli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mewn lleoliad heddychlon ar Rickeston Bridge. Mae o fewn cyrraedd hawdd i Hwlffordd, Aberdaugleddau, Doc Penfro, Dale a phentrefi hyfryd eraill gyda llawer o fwytai, orielau, siopau a thafarndai lleol. Mae yna hefyd nifer o gyrsiau golff, teithiau cefn gwlad a natur gyda mynediad i'r Llwybr Costal ac wrth gwrs ein traethau hardd a'r môr. Yn Rickeston rydym yn... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Gofal Towy Castle yn blasty o'r ddeunawfed ganrif sydd wedi'i drawsnewid yn hardd a'i leoli mewn tair erw o diroedd preifat gyda golygfeydd godidog o aber afon Tywi o'i amgylch. Mae'r cartref a gaiff ei redeg gan deulu yn darparu amrediad o becynnau gofal hyblyg a phwrpasol ar gyfer gofal preswyl hirdymor a gofal dydd. Yn ogystal, ychwanegwyd uned gofal dementia arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol i'r cartref yn 2012. Mae'r staff y... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Preswyl Hafan Deg wedi'i leoli yn nhref brifysgol Llanbedr Pont Steffan. Mae'r cartref preswyl wedi'i leoli o fewn pellter cerdded byr i siopau, swyddfa bost, llwybrau bysiau, caffis, bwytai ac amwynderau lleol eraill. Mae'r cartref yn cynnig 20 o leoedd preswyl, gan gynnwys rhai tymor byr, dros dro, parhaol a gofal seibiant. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth gofal dydd ar gyfer uchafswm o ddau unigolyn. Mae canolfan ddydd hefyd wed... Gweld Lleoliad
-
DATGANIAD O DDIBEN Cartref preswyl i un ar bymtheg o bobl hŷn (dros 65 oed), yn ddynion a merched yw Cartref Gofal Y Garreg Lwyd, a gofrestrwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae wedi’i leoli ar lôn wledig dawel, tua milltir o dref fach Sanclêr. Mae erw neu ddwy o erddi o gwmpas y cartref, a cheir mynediad uniongyrchol iddynt o’r rhan fwyaf o’r ystafelloedd. Mae’r staff yn cael eu recriwtio o’r ardal leol ac mae’r rha... Gweld Lleoliad
-
Mae Parc-y-llyn wedi'i leoli yn unigryw ar ei dir ei hun yng nghefn gwlad hardd a heddychlon Sir Benfro. Ein nod bob amser yw creu awyrgylch hamddenol ym Mharc-y-llyn, lle y bo preswylwyr yn teimlo'n ymlaciedig ac yn fodlon. Rydym yn ceisio darparu'r gofal ychwanegol y mae rhai o'n preswylwyr ei angen ac yn ei werthfawrogi, gan ei wneud yn bosibl i ni barhau ein gofal hirdymor. Mae ffrindiau a theuluoedd y preswylwyr yn cael eu hannog i ystyr... Gweld Lleoliad
-
Mae Melbourne House wedi bod yn gartref preswyl y sefydliad ers 1996. Mae'r tîm gofal yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth gofal proffesiynol iawn ar gyfer yr henoed, gyda dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na'r rheswm ei fod mewn lleoliad gofal. Mae Melbourne House yn falch o ddarparu ar gyfer pobl y mae arnynt angen gofal hirdymor, gofal byrdymor a hefyd gofal seibiant. Mae pentref Cross Hands yn cynnig digonedd o s... Gweld Lleoliad
-
Mae Y Plas yn gartref gofal pwrpasol a agorwyd yn 1981. Dros y blynyddoedd mae wedi elwa ar waith gwella ac adnewyddu sylweddol gan ymdrechu bob amser i gynnal llety a chyfleusterau o safon dda i ddiwallu anghenion gofal a chwrdd â disgwyliadau'r bobl sy’n byw yno. Mae'r Cartref wedi'i gofrestru i ddarparu gofal a chymorth ar gyfer hyd at 30 o bobl yr aseswyd bod angen lleoliad gofal preswyl tymor hir arnynt. Mae'r llety yn cael ei ddarpar... Gweld Lleoliad
-
Mae Parc Wern wedi'i leoli'n gyfleus yn ardal lled wledig Pen-y-banc yn agos i Rydaman, ac, o'i leoliad aruchel, gellir mwynhau ei olygfeydd eang o’r cefn gwlad a mynyddoedd cyfagos. Mae gan y cartref iard ganolog gaeedig hyfryd, a gardd ag ardaloedd i eistedd ble gall preswylwyr ymlacio yn yr awyr agored. Mae Parc Wern yn cynnig amgylchedd cefnogol, cartrefol a modern ac mae pob ystafell wely a lolfa wedi'i chynllunio i sicrhau cyfforddusrwy... Gweld Lleoliad
-
Mae Torestin yn gartref preswyl ar gyfer pobl hŷn sy’n gofalu am 44 o bobl hŷn ac sydd wedi'i leoli ym mhentref Tiers Cross, sy'n agos i Hwlffordd. Mae'r cartref wedi'i leoli yng nghanol ardal dwristaidd fawr, yr ydym yn manteisio i'r eithaf arni drwy fynd â'r preswylwyr i nifer o atyniadau a mannau o brydferthwch. Ein diben yw cofio eich bod chi yn unigolyn sydd â hawl i benderfynu sut i fyw eich bywyd. Byddwch yn sicr o gael ystafell... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Nyrsio Allt-y-mynydd yn gartref nyrsio cyffredinol â 44 gwely ac wedi'i adeiladu’n bwrpasol ac mae’n cwmpasu pob agwedd ar ofal preswyl, nyrsio a phreswyl dementia. Mae gan y cartref diroedd helaeth wedi'u lleoli yng Nghoedwig Brechfa yn edrych dros ddyffryn pictiwrésg Cwm Duar, yng nghalon cefn gwlad hyfryd Cymru. Mae'r ardal leol yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt lleol, ac mae wedi'i lleoli dim ond tair milltir y tu allan i Lan... Gweld Lleoliad
-
Mae dau lawr i Hafan y Waun ac mae'n gartref i 90 o breswylwyr sy'n byw ar y llawr daear a 40 sy'n byw ar y llawr cyntaf. Mae ein holl breswylwyr yn derbyn gofal preswyl hirdymor ar gyfer dementia. Rydym hefyd yn cynnig "gofal seibiant", sef gwasanaeth i bobl sy'n dymuno aros gyda ni am y tymor byr. Mae gennym dîm proffesiynol o staff gofal a fydd yn gweithio gyda chi i sicrhau bod eich holl anghenion gofal yn cael eu diwallu. Rydym yn d... Gweld Lleoliad
-
Grwp o wragedd a gafodd y weledigaeth o sefydlu cartref henoed i'r Bedyddwyr a chefnogwyd eu dyhead gan fudiad Chwiorydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Gwireddwyd eu gweledigaeth pan agorwyd Cartref Glyn Nest yn 1970. Fe'i lleolir mewn man dymunol ac mae'n gyfleus i'r dref. Cwblhawyd estyniadau sylweddol yn 1992 a 2009. Mae 28 o welyau cofrestredig yng Nglyn Nest yn cynnwys gwelyau i'r henoed sy'n dioddef o ddementia. Mae'r cartref yn croesawu pobl ... Gweld Lleoliad
-
Mae ein Cartref mewn adeilad Sioraidd hyfryd Adeiladwyd yn wreiddiol gan adeilad yr Arglwyddes Stepney (Hanesyddol) ar gyrion Llanelli yng nghymuned ffyniannus Pwll yn edrych dros fae Llanelli. Cyfeiriad y cartref yw Cartref Gofal Cilymaenllwyd Beech Grove Pwll Llanelli SA15 4RB Sir Gaerfyrddin. Nod y cartref yw darparu gwasanaeth ar gyfer yr henoed dros 65 oed, sydd wedi'i anelu'n bennaf at ofalu am bobl hÅ·n a dementia / eiddil eu meddwl ac yn... Gweld Lleoliad
-
Yn Cysgod Y Coed rydym yn rhoi hawliau preswylwyr ar flaen ein hathroniaeth gofal. Rydym yn ceisio hyrwyddo’r hawliau hyn ym mhob agwedd ar yr amgylchedd a’r gwasanaethau a ddarparwn ac i annog ein preswylwyr i ddatblygu eu hawliau’n llawn. Mae Llanilar wedi ei leoli 6 milltir yn unig o Aberystwyth ac mae mewn lleoliad hyfryd, gyda nifer o deithiau cerdded gerllaw, llawer ohonynt yn wastad ac yn hawdd eu cyrraedd. Mae'r pentref yn cy... Gweld Lleoliad
-
Mae Brynhelyg wedi'i leoli ar dir preifat eang ym mhentref Bynea, pedair milltir o ganol tref Llanelli. Mae wedi'i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddarparu ar gyfer 25 o breswylwyr sydd ag amrediad o anghenion, yn amrywio o rhai preswyl, henoed bregus eu meddwl, anhwylderau iechyd meddwl, nam ar eu golwg a chlyw, bregus a methedig, gyda chymorth ar gyfer anghenion meddygol arbennig. Rydym yn darparu gwasanaeth ar gyfer 12 preswylydd ... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Annwyl Fan yn gartref gofal wedi'i gynllunio'n arbennig sy'n cyfuno mentrau cynllunio arobryn â'r safonau uchaf o ofal preswyl, nyrsio a dementia. Yr hyn sy'n bwysig i Gartref Annwyl Fan yw creu awyrgylch cartrefol a hamddenol wrth ddarparu gofal o safon. Mae ein gofal sy'n canolbwyntio ar greu perthynas yn galluogi preswylwyr i barhau i wneud y pethau maen nhw bob amser wedi mwynhau eu gwneud – y pethau nad oedden nhw'n credu ... Gweld Lleoliad
-
Cartref gofal preswyl ar gyfer oedolion o 40 oed... Gweld Lleoliad
-
Mae Llys Fechan yn gartref preswyl dan berchnogaeth teulu sydd wedi'i leoli ym mhentref Cross Hands. Cofrestrwyd y cartref ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o dan berchnogion presennol Andrew a Joanna Miles ym mis Awst 2007, er mwyn darparu gofal i 18 o breswylwyr, dynion a menywod, sy'n hŷn na 65 oed. Mae'r cartref, sydd wedi ei adeiladu’n bwrpasol, wedi'i leoli ar erw o dir amaethyddol gyda digon o ardaloedd i eistedd yn yr awyr agored i b... Gweld Lleoliad
-
Cartref nyrsio preifat â 34 gwely.... Gweld Lleoliad
-
Wedi'i lleoli mewn rhan ddelfrydol o Sir Benfro, gyda golygfeydd o Gastell Penfro, rydym yn darparu gofal o ansawdd uchel i bobl â dementia mewn amgylchedd diogel a gofalgar. Ein diben a'n bwriad yw darparu ansawdd bywyd sy'n rhagori ar hawliau dynol sylfaenol drwy hyrwyddo unigoliaeth pob unigolyn o fewn ein gofal, drwy ddarparu gofal gydag urddas a phreifatrwydd tra'n annog annibyniaeth, hawliau dinasyddiaeth a lle bynnag y bo'n gorfforol, ... Gweld Lleoliad













