-
Mae Cartref Preswyl Hafan Deg wedi'i leoli yn nhref brifysgol Llanbedr Pont Steffan. Mae'r cartref preswyl wedi'i leoli o fewn pellter cerdded byr i siopau, swyddfa bost, llwybrau bysiau, caffis, bwytai ac amwynderau lleol eraill. Mae'r cartref yn cynnig 20 o leoedd preswyl, gan gynnwys rhai tymor byr, dros dro, parhaol a gofal seibiant. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth gofal dydd ar gyfer uchafswm o ddau unigolyn. Mae canolfan ddydd hefyd wed... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Preswyl yr Hafod wedi'i leoli yn nhref hanesyddol Aberteifi. Mae'r cartref preswyl wedi'i leoli o fewn pellter cerdded byr i’r siopau, llwybrau bysiau ac amwynderau lleol eraill, gan gynnwys pwll nofio, theatr, sinema a'r castell, sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar ac sydd yn gyfagos ag afon Teifi. Mae'r cartref yn cynnig 28 o leoedd preswyl, gan gynnwys rhai tymor byr, dros dro, parhaol a gwely seibiant. Rydym yn darparu gofal ... Gweld Lleoliad
-
Mae Plas-y-dderwen yn ymfalchïo yn darparu gwasanaethau o safon uchel i unigolion y mae arnynt angen gofal nyrsio, preswyl a dementia. Rydym yn ymgymryd ag asesiadau cadarn i sicrhau y caiff anghenion preswylwyr eu diwallu drwy gynllunio gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac rydym yn hyrwyddo pwysigrwydd dewis, urddas a pharch ar bob adeg. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau y cyflawnir y canlyniadau go... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Nyrsio Allt-y-mynydd yn gartref nyrsio cyffredinol â 44 gwely ac wedi'i adeiladu’n bwrpasol ac mae’n cwmpasu pob agwedd ar ofal preswyl, nyrsio a phreswyl dementia. Mae gan y cartref diroedd helaeth wedi'u lleoli yng Nghoedwig Brechfa yn edrych dros ddyffryn pictiwrésg Cwm Duar, yng nghalon cefn gwlad hyfryd Cymru. Mae'r ardal leol yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt lleol, ac mae wedi'i lleoli dim ond tair milltir y tu allan i Lan... Gweld Lleoliad
-
DATGANIAD O DDIBEN Cartref preswyl i un ar bymtheg o bobl hŷn (dros 65 oed), yn ddynion a merched yw Cartref Gofal Y Garreg Lwyd, a gofrestrwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae wedi’i leoli ar lôn wledig dawel, tua milltir o dref fach Sanclêr. Mae erw neu ddwy o erddi o gwmpas y cartref, a cheir mynediad uniongyrchol iddynt o’r rhan fwyaf o’r ystafelloedd. Mae’r staff yn cael eu recriwtio o’r ardal leol ac mae’r rha... Gweld Lleoliad
-
Mae Y Plas yn gartref gofal pwrpasol a agorwyd yn 1981. Dros y blynyddoedd mae wedi elwa ar waith gwella ac adnewyddu sylweddol gan ymdrechu bob amser i gynnal llety a chyfleusterau o safon dda i ddiwallu anghenion gofal a chwrdd â disgwyliadau'r bobl sy’n byw yno. Mae'r Cartref wedi'i gofrestru i ddarparu gofal a chymorth ar gyfer hyd at 30 o bobl yr aseswyd bod angen lleoliad gofal preswyl tymor hir arnynt. Mae'r llety yn cael ei ddarpar... Gweld Lleoliad
-
Mae Llys Fechan yn gartref preswyl dan berchnogaeth teulu sydd wedi'i leoli ym mhentref Cross Hands. Cofrestrwyd y cartref ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o dan berchnogion presennol Andrew a Joanna Miles ym mis Awst 2007, er mwyn darparu gofal i 18 o breswylwyr, dynion a menywod, sy'n hŷn na 65 oed. Mae'r cartref, sydd wedi ei adeiladu’n bwrpasol, wedi'i leoli ar erw o dir amaethyddol gyda digon o ardaloedd i eistedd yn yr awyr agored i b... Gweld Lleoliad
-
Mae Parc Wern wedi'i leoli'n gyfleus yn ardal lled wledig Pen-y-banc yn agos i Rydaman, ac, o'i leoliad aruchel, gellir mwynhau ei olygfeydd eang o’r cefn gwlad a mynyddoedd cyfagos. Mae gan y cartref iard ganolog gaeedig hyfryd, a gardd ag ardaloedd i eistedd ble gall preswylwyr ymlacio yn yr awyr agored. Mae Parc Wern yn cynnig amgylchedd cefnogol, cartrefol a modern ac mae pob ystafell wely a lolfa wedi'i chynllunio i sicrhau cyfforddusrwy... Gweld Lleoliad
-
Mae Caldey Grange yn gartref lle rydym yn deall gwerth pob unigolyn. Rydym yn darparu safon uchaf o ofal a chymorth ac yn cydnabod angen i fwynhau bywyd. Mae ein cartref yn ddiogel gyda staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda i gynorthwyo rhai sy’n byw gyda dementia. Mae Caldey yn gartref sydd yn llawn hwyl a chwerthin. Bydd ein trigolion a’r rheini sy’n defnyddio ein gwasanaeth gofal dydd yn mwynhau ein rhaglen adloniant llawn ac amrywiol... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Gofal Gwernllwyn ym mhentref Cross Hands, Sir Gaerfyrddin. Er ei bod yn ardal wledig, mae'n cael ei gwasanaethu'n dda gan systemau ffyrdd mawr ac mae'n gyfleus o agos at yr M4. Mae trefi Llanelli, Caerfyrddin a Llandeilo lai na 30 munud i ffwrdd ac yn hawdd eu cyrraedd. Mae gan y pentref amrywiaeth o Archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau, bwytai, siopau coffi, fferyllfeydd a swyddfa bost a rhai atyniadau lleol diddorol. Yng N... Gweld Lleoliad
-
Mae St. Teresa's yn gartref preswyl ble mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu a lle mae ganddynt ddewis a rheolaeth dros eu bywydau. Mae St. Teresa's yn eiddo i’r Chwiorydd Trugaredd, y mae eu gwaith arbennig yn cynnwys dysgu, gofalu am bobl sâl / yr henoed, rhoi lloches i'r digartref, ac ymweld â charcharorion ac ati. Sefydlwyd y Chwiorydd yn Iwerddon yn 1831 gan ddynes ifanc o'r enw Catherine McAuley. Mae Cartref Gorffwy... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartrefi Gofal Plas Cwmcynfelin Ltd yn wasanaeth gofal teuluol ger Clarach, tua dwy filltir o dref prifysgol a chyrchfan glan-y-môr Aberystwyth. Mae'r cyfadeilad yn cynnwys dau adeilad, sef y prif dŷ a'r coetsiws, ac mae'r ddau'n cynnig gofal nyrsio. Gallwn ddarparu llety ar gyfer hyd at 55 o bobl sy'n 40 mlwydd oed ac yn hŷn gydag anghenion gofal nyrsio: 33 yn y prif dŷ a 22 yn y coetsiws. Mae'r prif dŷ (Plasty Cwm) a'r coetsiws wedi'... Gweld Lleoliad
-
Mae Ashley Court Care yn gartref sy'n cynnwys 47 gwely ac yn eiddo i Premier 1 Healthcare. Mae'r cartref wedi'i leoli yng nghanol tref Llanelli ac o fewn deg munud ar droed i siopau ac amwynderau. Mae cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus gwych â'r cartref. Yn Ashley Court Care, mae ein prif bwyslais ar ansawdd bywyd cleient. Ein hethos yw, os yw person yn heini, yn fodlon ac yn mwynhau ei fywyd o ddydd i ddydd, bydd yn byw bywyd llewyrchus hi... Gweld Lleoliad
-
Mae Blaenos House wedi'i leoli ynghanol cefn gwlad gorllewin Cymru ychydig y tu allan i dref farchnad Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, gyda mynediad hawdd at Aberhonddu, Caerfyrddin a'r ardaloedd cyfagos. Mae'r cartref yn gyfleus ar gyfer nifer o gyfleusterau lleol fel siopau, tafarndai, llyfrgell, parc / lawnt fowlio a llwybrau bws a thrên. Mae'r cartref yn cael ei ailwampio ymhellach i wella'r llety a gynigir yn ein hystafelloedd sengl. Ma... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Gofal Glanmarlais wedi ymrwymo'n llwyr I hybu Hawliau'r preswylwyr a chydnabod fod pob un yn unigryw ac yn unigolion. Ein nod yw cynnig gwasanaeth sy'n arbenigol i'r unigolyn mewn modd sy'n canolbwyntio ar y person. Cyflawnir hyn rwy greu cynlluniau gofal sy'n adlewyrchu dymuniadau ac uchelgeisiau'r person, gan roi cyfle iddyn nhw leisio'u barn ar bob agwedd ar eu bywydau. Gan ddefnyddio'r dull hwn, byddwn ni'n galluogi nid yn analluo... Gweld Lleoliad
-
Mae Belvedere House yn gartref i 19 o breswylwyr ac mae'n cynnwys tŷ mawr o'r 19eg ganrif sydd wedi cael ei ymestyn a'i foderneiddio i ddiwallu anghenion ein preswylwyr. Mae'r holl ystafelloedd wedi eu dodrefnu a'u haddurno i safon uchel. Gall yr ystafelloedd gael eu personoli gan y preswylwyr a'u teuluoedd a ffrindiau i greu amgylchedd mwy cyfarwydd a chartrefol. Rydym yn darparu gofal dydd, gofal seibiant a gofal hirdymor i unigolion sydd â ... Gweld Lleoliad
-
Mae Pembroke Haven (Residential Homes) Ltd yn fusnes teulu lleol ac annibynnol sydd wedi bod yn darparu cymorth a gofal i'r henoed am dros 40 mlynedd. Mae'r cartref wedi'i adeiladu'n bwrpasol ac yn darparu lleoliad gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn. Wedi'i leoli yn ardal Llanion yn Noc Penfro, mae'r cartref wedi’i leoli ar safle amlwg iawn sy'n edrych dros ddyfrffordd Aberdaugleddau. Mae Pembroke Haven yn darparu gofal preswyl i'r rheiny... Gweld Lleoliad
-
Mae Awel Tywi yn gartref gofal pwrpasol a agorwyd yn y 1970au. Dros y blynyddoedd mae wedi elwa ar waith gwella ac adnewyddu sylweddol gan ymdrechu bob amser i gynnal llety a chyfleusterau o safon uchel i ddiwallu anghenion gofal a chwrdd â disgwyliadau'r bobl sy’n byw yno. Mae'r Cartref wedi'i gofrestru i ddarparu gofal a chymorth ar gyfer hyd at 38 o bobl ar sail barhaol a/neu dros dro. Mae hyn yn cynnwys darparu 1 wely seibiant, 8 gwely ... Gweld Lleoliad
-
Mae Llandaff House yn gartref preswyl â 21 gwely a adeiladwyd yn bwrpasol yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin. Rydym wedi ein cofrestru ar gyfer 19 unigolyn â dementia a dau leoliad preswyl. Mae ein hystafelloedd yn rhai sengl ac mae cyfleusterau ymolchi ganddynt i gyd ac mae gan wyth ystafell gyfleusterau en suite. Mae'r holl ystafelloedd wedi eu dodrefnu'n llawn. Gall ein holl breswylwyr ddod â'u dodrefn, lluniau ac eitemau personol eu hun i... Gweld Lleoliad
-
Mae Woodfield yn gartref gofal diarffordd sy'n darparu gofal dementia arbenigol i 24 o bobl ac sydd wedi'i leoli ar gyrion tref boblogaidd Arberth. Mae'r cartref wedi'i leoli yng nghanol ardal dwristaidd fawr, yr ydym yn manteisio i'r eithaf arni drwy fynd â'r preswylwyr i nifer o atyniadau a mannau o brydferthwch. Mae Woodfield wedi ymroi i ddarparu gofal o'r safon uchaf i'w holl breswylwyr. Yr ydym yn ymfalchïo yn ein henw da ym maes gofa... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Annwyl Fan yn gartref gofal wedi'i gynllunio'n arbennig sy'n cyfuno mentrau cynllunio arobryn â'r safonau uchaf o ofal preswyl, nyrsio a dementia. Yr hyn sy'n bwysig i Gartref Annwyl Fan yw creu awyrgylch cartrefol a hamddenol wrth ddarparu gofal o safon. Mae ein gofal sy'n canolbwyntio ar greu perthynas yn galluogi preswylwyr i barhau i wneud y pethau maen nhw bob amser wedi mwynhau eu gwneud – y pethau nad oedden nhw'n credu ... Gweld Lleoliad

















